Aberystwyth, Wales
May 19, 2009
The Crop Genetics, Genomics and
Breeding Division at the
Institute of
Biological, Environmental and Rural Sciences (IBERS),
Aberystwyth University, has
been awarded £1.6m to develop a physical map of the perennial
ryegrass genome.
This
research will be led by Drs Ian Armstead (photo), Helen Ougham,
Julie King, Lin Huang and Prof. Ian King and has been funded by
the Biotechnology and
Biological Sciences Research Council (BBSRC) with support
from Germinal Holdings,
Syngenta and
ViaLactia Biosciences.
Ryegrass is the most commonly cultivated grass in the UK and
forms a major component of both agricultural pastures and the
grasses that are used in lawns, parks and sports turfs, and
there is a long tradition of ryegrass breeding and research at
Aberystwyth.
IBERS, the new research institute formed from the merger of the
Aberystwyth University's Institutes of Biological Sciences and
Rural Sciences, and the BBSRC-sponsored Institute of Grassland
and Environmental Research (IGER), is continuing this tradition
by combining the breeding and research practices established at
IGER with new genomic approaches. This includes the development
of a physical map of the perennial ryegrass genome.
The term genome refers to the complete set of DNA sequences in a
particular species of plant, animal or other living organism,
explains Dr Ian Armstead.
“Physical mapping is a strategy for cataloguing all the DNA
sequences which make up a genome and then arranging them in
order to build up a picture of the structure of that genome.
This allows researchers to analyse the DNA sequence of specific
genomic regions, for instance regions known to be important for
drought tolerance or disease susceptibility, and so discover
what genes are present within these regions.”
“In the medium term, it also paves the way for whole genome
sequencing and hence the uncovering of the entire gene
complement, as was done in the human genome project. It is this
gene complement and the way in which the genes are controlled -
turned on and off as necessary - which, ultimately, determine
what any organism is and does. For ryegrass, this will
contribute to the development of new grasses which can address
issues of sustainability and performance under conditions of
climate change.
“Additionally, it will lead to a greater understanding of the
similarities and differences in makeup between the genomes of
the related grass and cereal species, including wheat, oats and
barley, upon which we all depend for food security. This work
links with ongoing BBSRC-funded research at IBERS developing and
aligning gene-based molecular markers across the range of
important UK grasses and cereals”, he added.
Tradition
There is a long tradition of ryegrass breeding and research at
Aberystwyth, dating back to the early 20th century and the
establishment of the Welsh Plant Breeding Station (WPBS), and
over the years this has led to the production of many new forage
and turf grass varieties.
Now marketed under the ‘Aber’ brand by IBERS’ commercial partner
Germinal Holdings, recent successes have included the ‘high
sugar’ forage grasses AberDart and AberMagic, which have
benefited both farmers and the environment by increasing the
efficiency with which plant protein is converted to meat and
milk.
Among the turf grasses, the ‘stay green’ variety AberNile has
become well known under the guise of the ‘So Green’ lawn seed
mixture and AberElf and AberImp have been widely used as sports
turfs.
Research and breeding continues to produce new varieties of
forage and amenity grasses which address not only immediate
commercial concerns, but also longer term issues of
sustainability. In this context, improving the endurance and
performance of grasses under low water conditions and minimal
fertiliser use are key targets.
£1.6 miliwn i ddatblygu map ffisegol o genom rhygwellt
Dyfarnwyd £1.6m i’r Grŵp Geneteg Cnydau, Genomeg a Bridio yn
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS),
Prifysgol Aberystwyth, i ddatblygu map ffisegol o genom
rhygwellt parhaol.
Cyllidwyd yr ymchwil, sydd yn cael ei arwain gan Dr Ian
Armstead, Dr Helen Ougham, Dr Julie King, Dr Lin Huang a’r Athro
Ian King, gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
(BBSRC) gyda chymorth oddi wrth Germinal Holdings, Syngenta a
ViaLactia Biosciences.
Rhygwellt yw’r math o laswellt sy’n cael ei dyfu fwyaf yn y DU
ac mae’n gydran bwysig o borfeydd amaethyddol ac o’r
glaswelltydd a ddefnyddir mewn lawntydd, parciau a meysydd
chwarae. Mae traddodiad hir yn Aberystwyth o fridio rhygwellt,
ac o wneud ymchwil arno.
Mae IBERS, y sefydliad ymchwil newydd a grëwyd drwy uno tri
sefydliad, sef sefydliadau Prifysgol Aberystwyth ar gyfer y
Gwyddorau Biolegol a’r Gwyddorau Gwledig, yn ogystal â Sefydliad
Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), a noddwyd gan y BBSRC,
yn cynnal y traddodiad hwn drwy gyfuno’r arferion bridio ac
ymchwil a sefydlwyd yn IGER â dulliau genomaidd newydd. Mae’r
gwaith yn cynnwys datblygu map ffisegol o genom rhygwellt
parhaol.
Mae’r gair ‘genom’ yn dynodi’r set gyflawn o ddilyniannau DNA
mewn unrhyw rywogaeth benodol o blanhigyn, anifail neu organedd
byw arall, esbonia Dr Ian Armstead, Prif Archwilydd y prosiect.
“Mae mapio ffisegol yn strategaeth ar gyfer catalogio’r holl
ddilyniannau DNA sy’n ffurfio genom, ac wedyn eu rhoi mewn trefn
i greu darlun o strwythur y genom hwnnw. Gall ymchwilwyr wedyn
ddadansoddi dilyniant DNA rhanbarthau penodol o’r genom – er
enghraifft, rhanbarthau y gwyddom eu bod yn bwysig ar gyfer
gallu i oddef sychder neu dueddiad i gael clefyd – ac felly i
ddarganfod pa enynnau sy’n bresennol o fewn y rhanbarthau hyn.”
“Yn y tymor canolig, mae hefyd yn paratoi’r ffordd ar gyfer
dilyniannu’r genom cyfan, a hynny’n arwain at ddatgelu’r set
gyfan o enynnau, fel y gwnaethpwyd yn y prosiect genom dynol. Yn
y pen draw, y casgliad hwn o enynnau, ynghyd â’r modd y mae’r
genynnau’n cael eu rheoli – hynny yw, eu troi ymlaen a’u troi i
ffwrdd, yn ôl yr angen – sy’n penderfynu beth yw unrhyw organedd
penodol, a beth fydd yr organedd hwnnw yn ei wneud. Yn achos
rhygwellt, bydd yr wybodaeth hon yn cyfrannu at ddatblygu
glaswelltydd newydd a all helpu i ddatrys problemau’n ymwneud â
chynaliadwyedd ac â pherfformiad dan amgylchiadau newid
hinsawdd.
“Hefyd, fe fydd yn arwain at ddealltwriaeth well o’r
cyffelybiaethau cyfansoddiad, a’r gwahaniaethau, rhwng genomau’r
rhywogaethau eraill o laswellt ac ydau sy’n perthyn i rygwellt,
gan gynnwys gwenith, ceirch a haidd, sef y cnydau rydym i gyd yn
dibynnu arnynt ar gyfer sicrwydd ein cyflenwad bwyd. Mae’r
gwaith hwn yn gysylltiedig â gwaith ymchwil cyfredol yn IBERS,
wedi ei ariannu gan y BBSRC, sy’n datblygu ac yn trefnu marcwyr
molecylaidd seiliedig ar enynnau ar draws holl amrediad
glaswelltydd ac ydau pwysig y DU,” ychwanegodd.
Traddodiad
Mae traddodiad hir yn Aberystwyth o waith bridio ac ymchwil ar
rygwellt, y gellir ei olrhain nôl i ddechrau’r 20fed ganrif a
sefydlu Gorsaf Fridio Planhigion Cymru, a thros y blynyddoedd
mae hyn wedi arwain at gynhyrchu llawer o fathau newydd o
laswellt pori a hamdden.
Mae llwyddiannau diweddar wedi cynnwys y glaswelltydd pori
‘siwgr uchel’ ‘AberDart’ ac ‘AberMagic’, sy’n cael eu marchnata
erbyn hyn o dan y brand ‘Aber’ gan Germinal Holdings, partner
masnachol IBERS. Bu’r glaswelltydd hyn o fudd i ffermwyr ac i’r
amgylchedd fel ei gilydd, drwy wella effeithlonrwydd trawsnewid
protein planhigol yn gig ac yn llaeth.
Ymhlith y glaswelltydd hamdden, mae’r math ‘para’n wyrdd’
‘AberNile’ wedi dod yn gyfarwydd yn rhith y cymysgedd hadau
lawnt ‘So Green’, a defnyddiwyd ‘AberElf’ ac ‘AberImp’ yn
helaeth ar gyfer meysydd chwarae.
Mae ymchwil a bridio yn dal i gynhyrchu mathau newydd o
laswelltau pori a hamdden sydd o werth nid yn unig o safbwynt
masnachol tymor byr, ond hefyd mewn perthynas â phroblemau
cynaliadwyedd yn y tymor hwy. Yn y cyd-destun hwn, mae gwella
gwytnwch a pherfformiad glaswelltydd mewn amgylchiadau sych, heb
lawer o wrtaith, yn nodau allweddol. |
|